Berthlwyd, Pontneddfechan
"The meadows are archetypal flower rich Hay Meadows – and never cease to amaze me when in full bloom – in their beauty and diversity".
"Mae’r dolydd yn ddolydd gwair nodweddiadol sy’n gyfoethog o flodau– ac rwyf wastad yn rhyfeddu at eu harddwch a’u hamrywiaeth pan maen nhw yn eu blodau.”
- Joe Daggett, National Trust / Ymddiriedolaeth Genedlaethol
One of the few areas in the whole of Wales that hasn't been altered or improved for agriculture, Berthlwyd is a place of beauty and bright wildflowers; a product of a farming practice maintained by tenants with a connection to the farm going back five generations. For them, these meadows are not just important for wildlife - they are also a source of good quality hay.
Un o’r ychydig ardaloedd yng Nghymru gyfan heb ei haddasu neu ei gwella i bwrpas amaethyddol yw Berthlwyd. Mae’n llecyn hardd ac yn llawn blodau gwyllt llachar; a hynny’n deillio o arferion ffermio tenantiaid a oedd â chysylltiad â’r fferm am bum cenhedlaeth. Iddyn nhw, mae’r dolydd hyn nid yn unig yn bwysig o safbwynt bywyd gwyllt - maen nhw hefyd yn ffynhonnell o wair o ansawdd da.
Recipient Meadows
How to get there / Sut i gyrraedd yno
The main car park is 8 miles south of Brecon on the A470 Cardiff to Brecon road.
Mae’r prif faes parcio 8 milltir i’r de i Aberhonddu ar ffordd yr A470 o Gaerdydd i Aberhonddu.
Species to spot / Rhywogaethau i’w gweld
-

Greater butterfly orchid / Tegeirian Llydanwyrdd
Best time to see: June - July Amser gorau i’w gweld: Mehefin - Gorffennaf
Despite its name, this dainty flower is largely pollinated by moths, attracted by a vanilla scent that grows stronger at night. The lesser butterfly orchid looks very alike - the main difference the size and position of its pollen sacs.
Er gwaethaf ei enw mae’r blodyn tlws hwn yn cael ei beillio’n bennaf gan wyfynod, sy’n cael eu denu gan arogl fanila sy’n gryfach gyda’r nos. Mae’r tegeirian llydanwyrdd bach yn edrych yn debyg iawn - y prif wahaniaeth yw maint a lleoliad ei sachau paill.
-

Great burnet / Bwrned mawr
Best time to see: April - Aug Amser gorau i’w gweld: Ebrill - Awst
The bulbous, blood red heads of this member of the rose familyoften indicate a floodplain meadow. The name burnet comes from the Old French for 'dark brown' - the same source as brunette.
Mae pennau coch, clystyrog yr aelod hwn o deulu’r rhosyn yn aml i’w gweld mewn dôl gorlifdir. Daw’r gair ‘bwrned’ o’r Hen Ffrangeg a’i ystyr yw ‘brown tywyll’ - yr un tarddiad sydd i'r gair Saesneg ‘brunette’.
-

Common spotted-orchid / Tegeirian brych
Best time to see: June - July Amser gorau i’w gweld: Mehefin - Gorffennaf
Our most common orchid enlivens many places, particularly chalk and limestone downs. Its flowers can vary from deep to light pink and the leaves are marked with spots.
Mae ein tegeirian mwyaf cyffredin yn dod â lliw i nifer o lecynnau, yn arbennig bryniau calchfaen. Mae ei flodau’n gallu amrywio o binc tywyll i binc golau ac mae smotiau ar y dail.
-

Yellow rattle / Cribell felen
Best time to see: May - September Amser gorau i’w gweld: Mai - Medi
A semi-parasitic flower that feeds off nutrients in nearby grass roots. In doing so it helps restrict the vigorous grasses, allowing more delicate wildflowers to emerge. Its 'rattle' is from tiny seeds in their pods.
Blodyn lled-barastig, sy’n bwydo oddi ar faethynnau mewn gwreiddiau glaswellt gerllaw. Mae hynny’n cyfyngu ar y glaswelltau sy’n tyfu, gan roi cyfle i flodau gwyllt dyfu. Mae nifer o hadau bach yn eu podiau.
Memories / Atgofion
"Having been closely involved with the farm and its meadows over the last 10 to 15 years – I have grown to appreciate the diversity and complexity of the fields – and am still learning and understanding about the relationship between soil, grazing, inputs (or not) and weather."
"Rwyf wedi cael cysylltiad agos â’r fferm a’i dolydd yn ystod yn 10 i 15 mlynedd diwethaf – ac rwyf wedi dod i werthfawrogi amrywiaeth a chymhlethdod y caeau – ac rwy’n dal i ddysgu a deall y berthynas rhwng pridd, pori, mewnbynnau (neu ddiffyg mewnbynnau) a’r tywydd."
- Joe Daggett, National Trust / Ymddiriedolaeth Genedlaethol