Mosshill, Penmachno
"The sheer abundance of Devil’s-bit scabious in the late summer is breathtaking."
"Mae toreth o flodau tamaid y cythraul ar ddiwedd yr haf yn olygfa arbennig."
- National Trust, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Secluded and a bit off the beaten track, Mosshill is an unimproved meadow rich in flowers. A colony of lesser horseshoe bats roost in the area and feed in the strip of mature oak and hawthorn woodland that borders the meadow. The grazing regime has been winter only for as long as anyone can remember - quite unusual but it works!
Mae Mosshill mewn llecyn diarffordd ac yn ddôl heb ei gwella sy’n gyfoethog o flodau. Mae nythfa o ystlumod trwyn pedol yn yr ardal ac maen nhw’n bwydo mewn llain o goetir derw a drain gwyn hynafol sy’n terfynu â’r ddôl. Mae’r drefn bori wedi’i chynnal yn y gaeaf yn unig am gyhyd ag y gall unrhyw un gofio – sydd braidd yn anarferol ond mae'n gweithio!
Recipient Meadows
Species to spot / Rhywogaethau i’w gweld
-

Devil’s-bit scabious / Tamaid y cythraul
Best time to see: June - Sept. Amser gorau i’w gweld: Mehefin - Medi.
A pink pin-cushion-like flower which our ancestors believed cured scabies (hence "scabious"). It has short, stubby roots which - according to legend - were bitten off by the Devil to prevent its healing powers. Blodyn pinc crwn a chredai ein hynafiaid ei fod yn gwella pobl a ddioddefai o sgabies (dyma darddiad yr enw Saesneg ‘scabious’). Mae'n ganddo wreiddiau byr - yn ôl y chwedl - brathwyd y rhain gan y Diafol i atal ei bwerau gwella.
-

Betony / Cribau San Ffraid
Best time to see: June - Sept. Amser gorau i’w gweld: Mehefin - Medi
Long-living and slow-growing, this vivid magenta wild flower was used in the past as to protect against sorcery and - according to the Anglo Saxon Herbal - 'frightful nocturnal goblins'. Image © Plantlife/Andrew Gagg. Planhigyn sy’n byw am hir ac yn tyfu’n araf. Defnyddiwyd y blodyn gwyllt coch llachar hwn yn y gorffennol i ddiogelu pobl rhag dewiniaeth ac - yn ôl Llyfr Llysieuol Eingl Sacsonaidd - ‘corachod dychrynllyd y nos’. Llun © Plantlife/Andrew Gagg.
-

Greater butterfly orchid / Tegeirian Llydanwyrdd
Best time to see: June - July Amser gorau i’w gweld: Mehefin - Gorffennaf
Despite its name, this dainty flower is largely pollinated by moths, attracted by a vanilla scent that grows stronger at night. The lesser butterfly orchid looks very alike - the main difference the size and position of its pollen sacs.
Er gwaethaf ei enw mae’r blodyn tlws hwn yn cael ei beillio’n bennaf gan wyfynod, sy’n cael eu denu gan arogl fanila sy’n gryfach gyda’r nos. Mae’r tegeirian llydanwyrdd bach yn edrych yn debyg iawn - y prif wahaniaeth yw maint a lleoliad ei sachau paill.
-

Common knapweed / Pengaled
Best time to see: June - Sept. Amser gorau i’w gweld: Mehefin - Medi
A thistle-like plant also known as 'black knapweed', although its flowers are actually bright pink. It is a popular source of nectar for the Red Admiral, Meadow Brown, Peacock, Painted Lady and many other butterflies. Planhigyn tebyg i’r ysgall y cyfeirir ato hefyd fel ‘pengaled du’ er bod ei flodau’n binc llachar. Mae'n ffynhonnell neithdar boblogaidd i’r Fantell Goch, Gweirlöyn y Ddôl, Mantell Paun, Mantell Dramor a nifer o loÿnnod byw eraill.
-

Oxeye daisy / Llygad llo mawr
Best time to see: June - Aug. Amser gorau i’w gweld: Mehefin - Awst.
Large and daisy-like, the oxeye tends to bloom around midsummer and in fact is called the Sunnwendbleaml - or 'solstice flower' - in Austria. Before the 16th century it was known as the 'Moon Daisy' or 'Dog Daisy'. Blodyn llygad y dydd mawr, sy’n tueddu i flodeuo ganol yr haf. Yn Awstria mae'n cael ei alw’n Sunnwendbleaml - neu ‘flodyn yr heuldro’. Enw arall arno yw ‘Aspygan’.