Mountain Meadows, Clarbeston Road / Dolydd y Mynydd, Ffordd Clarbeston
Lying on gently hilly terrain on a side valley of the Afon Syfynwy, Mountain Meadows includes six grassland fields surrounded by woodland and scrub. The upper fields are dry, neutral hay meadows while the steeper slopes have more acidic pasture. There is also a very small area of wetter vegetation. All this leads to a wonderful diversity of flowering plants, and the meadows are exceptional for their range of orchids.
The hay meadows are very species rich, with grasses such as sweet vernal grass and heath grass and flowers including green-winged orchid, early purple-orchid, heath spotted-orchid, southern marsh-orchid, twayblade and adder’s-tongue fern. The wetter, more acidic areas are very different in character and include Devil’s-bit scabious, frothy white whorled caraway and, unusually, the delicate ivy-leaved bellflower creeping over the sward. The owners of this site have ensured its survival and successfully managed to keep it flourishing.
Mae Dolydd y Mynydd ar dir bryniog ar ddyffryn llethrog yr Afon Syfynwy, ac mae’n cynnwys chwech o gaeau pori gyda choetir a phrysgwydd o’u cwmpas. Mae’r caeau uchaf yn sych, yn ddolydd gwair niwtral tra bod porfa fwy asidig ar y llethrau mwy serth. Hefyd mae ardal fach o lystyfiant gwlypach. Mae hyn oll yn arwain at amrywiaeth dda o blanhigion sy’n blodeuo, ac mae amrywiaeth arbennig o degeirianau yn y dolydd.
Mae’r dolydd gwair yn gyfoethog o rywogaethau, gyda glaswelltau fel perwellt y gwanwyn a glaswellt y rhos a blodau fel tegeiriannau’r waun, tegeirian coch y gwanwyn, tegieiran brych y gors, tegeirian y gors deheuol, cain eirian a thafod y neidr. Mae’r ardaloedd gwlypach sy’n fwy asidig yn wahanol iawn o ran cymeriad ac yn cynnwys tamaid y cythraul, carwy droellennog gwyn, ac yn wahanol i’r arfer, clychlys dail eiddew sy’n tyfu dros y tyweirch. Mae perchnogion y safle wedi sicrhau ei fod yn goroesi ac maen nhw wedi llwyddo i sicrhau ei fod yn ffynnu.
Recipient Meadows
Species to spot / Rhywogaethau i’w gweld
-

Greater butterfly orchid / Tegeirian Llydanwyrdd
Best time to see: June - July Amser gorau i’w gweld: Mehefin - Gorffennaf
Despite its name, this dainty flower is largely pollinated by moths, attracted by a vanilla scent that grows stronger at night. The lesser butterfly orchid looks very alike - the main difference the size and position of its pollen sacs.
Er gwaethaf ei enw mae’r blodyn tlws hwn yn cael ei beillio’n bennaf gan wyfynod, sy’n cael eu denu gan arogl fanila sy’n gryfach gyda’r nos. Mae’r tegeirian llydanwyrdd bach yn edrych yn debyg iawn - y prif wahaniaeth yw maint a lleoliad ei sachau paill.
-

Southern marsh orchid / Tegeirian-y-gors deheuol
Best time to see: June - July. Amser gorau i’w gweld: Mehefin - Gorffennaf
Also known as the 'leopard marsh orchid', this wild flower is fairly common in mainland Europe but - apart from local areas of southern England - less so over here. Image © Plantlife. Mae’r blodyn gwyllt yma’n eithaf cyffredin ar dir mawr Ewrop ond – oni bai am ardaloedd lleol o dde Lloegr – mae’n llai cyffredin yma . Llun © Plantlife
-

Small pearl-bordered fritillary / Brithog berlog fach
Best time to see: June - July. Amser gorau i’w gweld: Mehefin - Gorffennaf
Preferring damp meadows, this butterfly flies low to the ground frequently skipping from flower to flower to drink nectar. In recent years it has declined dramatically in England. Image © Hugh Venables/CC BY-SA. Mae'n well gan y glöyn byw hwn ddolydd gwlyb, ac mae'n hedfan yn isel o flodyn i flodyn i yfed neithdar. Yn y blynyddoedd diwethaf bu gostyngiad mawr yn y niferoedd yn Lloegr . Llun © Hugh Venables/CC BY-SA
-
Green-winged orchid / Tegeirian y waun
Best time to see: May. Amser gorau i’w gweld: Mai
The jester-like motley of its green and purple flowers gives this orchid its scientific name: morio, meaning 'fool'. It can sometimes be confused with the early-purple orchid but does not have spots on its leaves. Mae'n hawdd drysu rhwng y rhain a thegeirian coch y gwanwyn, ond nid oes smotiau ar ddail y rhain.
-

Whorled caraway / Carwy droellennog
This frothy flower derives its name from its leaves which form a circlet - or 'whorl' - around the base of its stem. Although its related to the spice Caraway, it has no culinary or medicinal use. Image © Plantlife/Bob Gibbons. Mae enw’r blodyn hwn yn deillio o’i ddail sy’n gwneud cylch – neu’n ‘troelli’ - o gwmpas bôn ei goes. Er ei fod yn perthyn i’r sbeis Carwe, nid yw’n cael ei ddefnyddio i goginio nac fel meddyginiaeth. Llun © Plantlife/Bob Gibbons
Your pictures / Eich lluniau
Owned by / eiddo i
Stephen and Anne Coker